Rydym yn chwilio am bensaer prosiect i ymuno a'n tîm yn y swyddfa ym Mhwllheli | We are looking for a project architect to join our team in Pwllheli
Pensaer Prosiect
09.02.2017
Swydd Ddisgrifiad
Cyfle i bensaer dyfeisgar a thalentog i weithio ar brosiectau cymharol fychan ond diddorol o’r swyddfa ym Mhwllheli. Mae Pwllheli yn dref arfordirol Gymraeg a lleoliad hwylio rhyngwladol sydd yn cynnig nifer o gyfleon ieithyddol, diwylliannol a gweithgareddol.
Gwelir yr ymgeisydd delfrydol fel person a all yn y tymor byr gynorthwyo gyda gweithrediad nifer o brosiectau sydd eisioes ar y gweill ond yn y tymor hir a all gynorthwyo yng nghyfeiriad gwaith a thwf y cwmni ac sydd gyda’r weledigaeth, yr egni a’r penderfyniad i ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol o fewn y cwmni.
Disgwylir y bydd i’r person a apwyntir fod a’r profiad a’r gallu i weithio yn annibynnol er ymgymryd â chwblhau'r dyletswyddau hynny a restrir ar gyfer penseiri o fewn llawlyfr ‘Project Plan of Work’ 2013 yr RIBA i gynnwys y canlynol:
ar gyfnodau priodol cyfarfod, trafod a chynghori clients ar anghenion a gofynion y prosiect
paratoi dyluniadau amlinellol a cheisiadau cynllunio
datblygu'r cynlluniau a’r manylion angenrheidiol i alluogi cyflwyniad a chymeradwyaeth ceisiadau rheolaeth adeiladu ynghyd a gwahoddiad tendrau o fewn cyfnod penodedig
ymgymryd â dyletswyddau gweinyddiaeth contract i gynnwys paratoad cyfarwyddiadau pensaer, tystysgrifau ariannol ynghyd a rhestrau diffygion
cyfrannu at ddatblygiad sustemau gweinyddu priodol o fewn y swyddfa
Fe fyddwch yn gyfarwydd a:
defnydd CAD (byddai profiad o Vectorworks yn fanteisiol)
gwybodaeth am ddefnydd BIM ar brosiectau
defnydd meddalwedd gair brosesu, taenlennu a data-bas
defnydd meddalwedd cyflwyniadol megis photoshop, artlantis, renderworks neu debyg
safonau technegol adeiladau
sustemau cynaliadwy
Bydd cyfle i’r person a apwyntir i ddatblygu sgiliau technegol, ymarferol a chyfathrebol ac i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am sustemau cynaliadwy yn ogystal ag i brofi gweithdrefniadau dyddiol o fewn y cwmni.
Project Architect
09.02.2017
Job description
This is a role for which the ability to speak Welsh is a material consideration - if successful a non Welsh speaking applicant would be required to commit to an intensive Welsh language learning course!
An opportunity for a resourceful and talented individual to work on a number of relatively small but interesting and stimulating projects at our Pwllheli office. Pwllheli is a Welsh speaking coastal town and international sailing venue on the edge of Snowdonia National Park and the area offers a number of linguistic, cultural and sporting opportunities.
The ideal applicant is seen as a person who can initially assist in the execution of various projects already on the drawing board but in the longer term assist in giving direction to the company's work and growth and with the vision, drive and determination to take on additional responsibilities and roles within the practice.
It is expected that the person appointed will have the experience and the ability to work largely unaided to complete all of the services and duties expected of an architect as defined within the RIBA’s project plan of Work 2013 to include:
on occasions meeting and discussing and advising the client on a project’s requirements
preparing outline proposals and planning application submissions
developing the necessary plans and specifications for a project to allow for submission and approval of building control applications together with tender invitation within a stipulated period
undertake the contract administration role to include the preparation of interim and other certificates and also schedules of defects
assist in developing suitable administrative and organisational systems within the office
You will be familiar with and be experienced in:
the use of CAD software (experience of vactorworks would be advantageous)
the developing use of BIM within the construction sector
the use of word processing, spreadsheet and database software
the use of presentational software such as photoshop, artlantis, renderworks etc
the technical requirements of buildings
sustainable building systems
The role will enable the appointed person to develop technical, practical and communicational skills and a greater understanding and knowledge of sustainable building systems as well as to experience day to day project administration within the practice.