Y Pobl
Sefydlwyd ym 1984 - fel partneriaeth yn wreiddiol a bellach fel cwmni cyfyngedig - rydym wedi cyflogi nifer o bobl dros y blynyddoedd, ac mae cyfraniad nifer ohonynt wedi gwneud y cwmni yn gryfach ac yn mwy effeithiol.
​
Cliciwch ar y wynebau i wybod mwy am aelodau y tîm.
Pensaer/Perchennog/Cyfarwyddwr: Wedi treulio 18mlynedd ym Manceinion yn gweithio ar ysgolion a phrosiectau cymunedol, arnewid ac ailwampio adeiladau rhestredig, dyluniad tirlunio yn ogystal â bod yn diwtor prifysgol, mae Rhodri wedi dychwelyd i’r ardal i ddylunio a gwireddu prosiectau preswyl a chymunedol yn ei filltir sgwâr.
Pensaer: Yn gyfrifol am redeg nifer o gynlluniau mwyaf blaenllaw'r cwmni dros y blynyddoedd, gyda phrofiad helaeth o'r byd pensaernïol ar lannau merswy cyn dod i weithio i Bwllheli ym 1994.
Rheolwr Swyddfa: Gyda chefndir mewn cyfrifiaduron a'r maes adeiladu mae Arfon yn gyfrifol am redeg ein swyddfa ac edrych ar ôl ein cyfrifon ym Mhwllheli.