top of page
Dobson Owen Logo

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhodri

​

01758 614181

post@dobsonowen.com

Pensaer Prosiect

​

​

Swydd Ddisgrifiad

Cyfle i bensaer dyfeisgar a thalentog i weithio ar brosiectau cymharol fychan ond diddorol o’r swyddfa ym Mhwllheli. 
Mae Pwllheli yn dref arfordirol Gymraeg a lleoliad hwylio rhyngwladol sydd yn cynnig nifer o gyfleon ieithyddol, diwylliannol a gweithgareddol.

​

Gwelir yr ymgeisydd delfrydol fel person sydd yn gymharol brofiadol a all yn y tymor byr gynorthwyo gyda gweithrediad nifer o brosiectau sydd eisioes ar y gweill ond yn y tymor hir a all gynorthwyo yng nghyfeiriad gwaith a thwf y cwmni ac sydd gyda’r weledigaeth, yr egni a’r penderfyniad i ymgymryd â dyletswyddau a chyfrifoldebau ychwanegol o fewn y cwmni.

​

Disgwylir y bydd i’r person a apwyntir fod a’r profiad a’r gallu i weithio yn annibynnol er ymgymryd â chwblhau'r dyletswyddau hynny a restrir ar gyfer penseiri o fewn llawlyfr ‘Project Plan of Work’ yr RIBA i gynnwys y canlynol:

  • ar gyfnodau priodol cyfarfod, trafod a chynghori clients ar anghenion a gofynion y prosiect

  • paratoi dyluniadau amlinellol a cheisiadau cynllunio

  • datblygu'r cynlluniau a’r manylion angenrheidiol i alluogi cyflwyniad a chymeradwyaeth ceisiadau rheolaeth adeiladu ynghyd a gwahoddiad tendrau o fewn cyfnod penodedig

  • ymgymryd â dyletswyddau gweinyddiaeth contract i gynnwys paratoad cyfarwyddiadau pensaer, tystysgrifau ariannol ynghyd a rhestrau diffygion

  • cyfrannu at ddatblygiad sustemau gweinyddu priodol o fewn y swyddfa

​

Fe fyddwch yn gyfarwydd â:

  • defnydd CAD (byddai profiad o Vectorworks a/neu Archicad yn fanteisiol)

  • gwybodaeth am ddefnydd BIM ar brosiectau

  • defnydd meddalwedd gair brosesu, taenlennu a data-bas

  • defnydd meddalwedd cyflwyniadol megis photoshop, artlantis, renderworks neu debyg

  • safonau technegol adeiladau a sustemau cynaliadwy

​

Bydd cyfle i’r person a apwyntir i ddatblygu sgiliau technegol, ymarferol a chyfathrebol ac i ddatblygu dealltwriaeth a gwybodaeth am sustemau cynaliadwy yn ogystal ag i brofi gweithdrefniadau dyddiol o fewn y cwmni.

bottom of page