top of page
  • DO

Trosglwyddiad perchnogaeth a dilyniant

Ar yr 31ain o fis Mawrth daeth fy nghyfnod fel cyfarwyddwr cwmni Dobson:Owen i ben. O’r 1af o fis Ebrill bydd Rhodri Evans yn gyfrifol am ac yn arwain y cwmni i’r dyfodol. Hoffwn ddiolch o galon i’n cwsmeriaid ac yn ogystal i’r llu o unigolion a chyrff y bu i ni fod yn cydweithio a hwy dros y blynyddoedd am eu cefnogaeth a’u hymddiriedaeth.


Rwyf yn edrych ymlaen yn awr i weithio yn rhan amser gyflogedig i’r cwmni am gyfnod estynedig a thra pery hynny byddaf yn cymeryd diddordeb garw yn natblygiad gwaith y cwmni o ganlyniad i ymdrechion Rhodri, Derec, Gethin ac Arfon.


Fel ym mhob cwmni, mae ymroddiad ac ymdrech unigol pob un o’r aelodau yn greiddiol i ddatblygiad y cwmni ac mae’n nyled personol i’n fawr i bob un - yn enwedig felly i Derec sydd wedi bod yn aelod teyrngar a chydwybodol ers dechrau’r 90au. Mae’n rhaid i mi yn ogystal grybwyll Huw (Owen) a oedd yn ganolog i sefydliad ac a ddarparu’r ysbrydoliaeth i lawer o brosiectau’r cwmni. Fe fu yn gefn i mi dros chwarter canrif cyn iddo benderfynu mynd i gyfeiriad gwahanol.


Mae i bob peth ei amser ac fe ddaeth yn hen amser i mi sefyll o’r neilltu er lles dyfodol tymor hir y cwmni.


Diolch yn fawr,


Gareth











21 views0 comments

Recent Posts

See All
bottom of page