AMCANION
I greu pensaernïaeth hyderus, effeithiol a chreadigol drwy ddilyn proses o ymchwil ac ymholiad gyda newydddeb, gwreiddioldeb, ac mewn perthynas addas a'r amgylchedd a'r gymuned.
AMCANION PELLACH
-
Gwella dealltwriaeth gyffredinol o egwyddorion pensaernïoli.
-
Ymchwilio i ffyrdd newydd o 'greu lle' gan ddefnyddio disgyblaeth bensaernïol i wella amgylchedd pobl sydd un ai yn defnyddio neu sydd yn cael eu dylanwadu ganddynt.
-
Cynorthwyo i gynnal a gwasanaethu'r gymuned leol a bod yn driw i'w hegwyddorion a'i harferion cynhenid.
GWERTHOEDD
Gwrando | Gwasanaeth | Gwreiddioldeb | Gweledigaeth | Gwybodaeth
Rydym yn ymrwymedig i wrando ar anghenion a dyheadau ein cwsmeriaid, gan ddarparu gwasanaeth o safon gyda gwreiddioldeb a gweledigaeth a chyda'r dyfnder gwybodaeth angenrheidiol o fewn y diwydiant adeiladu cyfoes.