
Polisi Preifatrwydd Dobson Owen
Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni
Rydym am i chi ddeall sut a pham rydym ni'n casglu a defnyddio gwybodaeth amdanoch chi fel eich bod yn hapus y gallwch ymddiried â ni gyda'ch gwybodaeth bersonol.
Mae Dobson Owen yn ymrwymo i roi gwybod i chi pa wybodaeth y mae Dobson Owen yn ei chasglu amdanoch chi, sut a phryd y caiff ei gasglu a beth sy'n digwydd i'r wybodaeth honno.
Yn y polisi hwn ystyr "ni" yw Dobson Owen. Pan fyddwch chi'n rhoi eich data personol i ni, Dobson Owen yw'r rheolwr data a ni sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich data personol yn cael ei gadw'n ddiogel a'i ddefnyddio'n gyfreithlon.
Mae'n bwysig eich bod chi'n darllen y polisi preifatrwydd hwn ac unrhyw rybudd preifatrwydd arall y gallwn ei roi i chi ar adegau penodol pan fyddwn yn casglu eich data fel eich bod yn deall yn llawn sut a pham yr ydym yn defnyddio eich data.
Drwy ddefnyddio ein gwasanaethau, rydych chi'n cytuno â thelerau'r polisi preifatrwydd hwn a'n Polisi Cwcis.
Efallai y byddwn yn diweddaru'r polisi preifatrwydd hwn a'n Polisi Cwcis o dro i dro a byddwn yn postio unrhyw newidiadau ar ein gwefan yn www.dobsonowen.com.
A yw'r polisi hwn yn berthnasol i wefannau eraill nad ydynt yn berchen i Dobson Owen?
Nac ydy. Os ydych chi'n darparu data i neu ar wefannau sy'n eiddo i gwmnïau eraill (hyd yn oed os oes cyswllt i'r wefan arall honno ar wefan Dobson Owen), byddwch yn darparu'ch data i berchennog y wefan honno (nid Dobson Owen). Bydd polisi preifatrwydd y wefan arall honno'n berthnasol i'r ffordd y bydd eich data yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn argymell eich bod yn gwirio polisïau preifatrwydd unrhyw safle arall os ydych chi'n darparu'ch manylion personol.
Sut a pham mae Dobson Owen yn defnyddio fy ngwybodaeth bersonol?
Mae cyfraith diogelu data yn nodi bod angen inni ddweud wrthych sut a pham yr ydym yn defnyddio'ch data personol a'n sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio'ch data.
Gallwch ddewis pa wybodaeth rydych chi'n ei rhoi i Dobson Owen amdanoch chi'ch hun. Fodd bynnag, os ydych chi'n dewis peidio â rhannu rhywfaint o wybodaeth gyda ni, efallai na fydd rhai o'n gwasanaethau a meysydd o'n gwefan ar gael i chi.
Pa wybodaeth allai Dobson Owen ei chasglu amdanaf a sut?
Pan fyddwch yn rhyngweithio ag Dobson Owen yn y gwahanol ffyrdd a ddisgrifir isod, mae'n bosibl y byddwn yn gofyn am y wybodaeth ganlynol:
-
manylion personol a manylion cysylltu (er enghraifft eich enw, cyfeiriad e-bost ar ein 'Ffurflen Cyswllt').
-
manylion personol a manylion cysylltu a roddwch i ni wrth i chi gofrestru ar gyfer unrhyw wasanaeth gan Dobson Owen.
Derbynwyr gwybodaeth farchnata
Os ydych chi'n derbyn gwybodaeth farchnata gan Dobson Owen, mae'n bosib y byddwn yn dal manylion eich enw, cyfeiriad post a/neu cyfeiriad e-bost.
Byddwn yn defnyddio'ch manylion er mwyn danfon gwybodaeth atoch ynglŷn â rhaglenni a gwasanaethau Dobson Owen a dim ond pan fyddwch wedi cytuno i ni wneud hynny (e.e. trwy opt-in).
Bydd pob cyfathrebiad marchnata a anfonir atoch yn cynnwys manylion ynghylch sut i ddad-danysgrifio os nad ydych yn dymuno derbyn y negeseuon hyn bellach.
Rheswm dilys dros ddefnyddio'ch data personol
Byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol lle mae gennym reswm dilys dros wneud hynny (a elwir yn sail gyfreithlon ar gyfer prosesu). Bydd y rheswm dilys yn dibynnu ar sut a pham mae gennym eich gwybodaeth bersonol. Yn gyffredinol, byddwn ond yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol ar y sail gyfreithlon ganlynol:
-
Eich bod wedi dweud wrthym eich bod yn dymuno i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddiben a gytunwyd (Caniatâd). Mae gennych yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl.
-
Bod prosesu eich gwybodaeth bersonol yn angenrheidiol ar gyfer perfformio contract gyda chi (gan gynnwys telerau ac amodau unrhyw wasanaethau a ddarperir i chi gan Dobson Owen)
-
Mae'r brosesu yn niddordeb dilys Dobson Owen. Er enghraifft, mae o fewn cwmpas diddordeb dilys Dobson Owen i ddefnyddio data yn ymwneud â sut rydych chi'n defnyddio ein gwasanaethau neu sylwadau a wnewch am ein gwasanaethau er mwyn galluogi Dobson Owen i dargedu adnoddau mewn meysydd penodol ar gyfer datblygiad technegol neu welliannau. Mae o fewn cwmpas diddordeb dilys Dobson Owen i brosesu rhai elfennau o wybodaeth amdanoch er mwyn sicrhau eich bod yn mwynhau'r profiad gorau y gallwn ei ddarparu i chi ac i ddiwallu eich anghenion technegol, ac i ymateb i'ch hoffderau a'r hyn rydych wedi nodi nad sy'n hoff gennych. Mae o fewn cwmpas diddordeb dilys Dobson Owen i reoli pa gynnwys y gellir ei ddarparu i chi os ydych wedi eich lleoli y tu allan i'r DU er mwyn sicrhau ein bod yn cydymffurfio â'n cytundebau hawliau.
-
Bod y prosesu yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol a osodir ar Dobson Owen
Anhysbysu a chyfuno data
Mae'n bosib y byddwn yn anhysbysu neu'n cyfuno eich gwybodaeth bersonol gyda gwybodaeth eraill mewnmodd sy'n sicrhau na ellid eich adnabod o'r wybodaeth. Gallwn ddefnyddio data dienw neu gyfunol am amrywiaeth o resymau, er enghraifft, ar gyfer dadansoddi ystadegol a gweinyddu, gan gynnwys dadansoddi tueddiadau, i gyflawni gwaith actiwaraidd, i deilwra cynhyrchion a gwasanaethau ac i gynnal asesiad risg a dadansoddi costau a thaliadau mewn perthynas â'n cynnyrch a'n gwasanaethau. Efallai y byddwn yn rhannu data dienw neu gyfun â thrydydd partïon.
Ydy Dobson Owen yn rhannu fy nghwybodaeth â thrydydd partïon?
Ni fydd Dobson Owen yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw un arall.
Mae'n bosib y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth:
-
os gofynnir i ni ddarparu gwybodaeth amdanoch chi at ddibenion cyfreithiol
Beth os ydw i tu allan i'r DU?
Bydd yr holl wybodaeth bersonol a gyflwynir gan ddefnyddwyr y tu allan i'r DU yn cael ei brosesu yn unol â'r polisi hwn a'r Polisi Cwcis.
Pa hawliau sydd gen i i reoli fy nghwybodaeth personol?
O dan gyfraith diogelu data, yn dibynnu ar y sail gyfreithiol y mae Dobson Owen yn dibynnu arni i ddefnyddio'ch data, mae gennych nifer o wahanol hawliau. Nodir crynodeb o'r hawliau hynny a'n rhwymedigaethau isod. Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau a'n rhwymedigaethau i'w gweld ar wefan yr ICO.
-
Cais am fynediad at eich gwybodaeth bersonol (a elwir yn gyffredin fel "cais am fynediad gan oddrych y data"). Mae hyn yn eich galluogi i dderbyn copi o'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch chi ac i wirio ein bod yn ei brosesu'n gyfreithlon. Efallai y bydd gofyn i chi anfon prawf hunaniaeth atom.
-
Cais i gywiro gwybodaeth bersonol yr ydym yn ei ddal amdanoch chi. Mae hyn yn eich galluogi i gael unrhyw wybodaeth anghyflawn neu anghywir sydd gennym amdanoch chi wedi'i gywiro.
-
Tynnu'ch caniatâd yn ôl pan fyddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol ar y sail eich bod wedi dweud wrthym eich bod am i ni wneud hynny, gallwch dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl trwy ddad-danysgrifio i gyfathrebiadau marchnata gan ddefnyddio'r opsiwn "Dad-danysgrifio", trwy reoli eich dewisiadau o fewn eich cyfrif neu drwy e-bostio data@dobsonowen.com gyda neges yn rhoi gwybod i ni am fanylion y gwasanaeth lle rydych am dynnu'ch caniatâd yn ôl.
-
Cais i ddileu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni ddileu gwybodaeth bersonol lle nad oes rheswm da ganddom i barhau i'w brosesu. Byddwn yn cydymffurfio â'r cais hwn oni bai bod gennym reswm cyfreithiol i gadw'r data, er enghraifft, ei fod yn ofynnol i ni gadw'r data i gydymffurfio â'r gyfraith am gyfnod penodol.
-
Gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol. Gallwch wrthwynebu prosesu mewn amgylchiadau pan fyddwn ni'n dibynnu ar yr hawl i brosesu o fewn cwmpas diddordebau dilys Dobson Owen (neu rai trydydd parti) ac mae rhywbeth am eich sefyllfa benodol sy'n eich gwneud yn awyddus i wrthwynebu prosesu ar y sail hon. Byddwn yn cydymffurfio â'ch cais yn hyn o beth oni bai bod gennym reswm cyfreithiol i barhau i brosesu'r data. Mae gennych hefyd yr hawl i wrthwynebu lle rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata uniongyrchol.
-
Cais i gyfyngu prosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn eich galluogi i ofyn i ni atal prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi, er enghraifft, os ydych chi am i ni sefydlu ei gywirdeb neu'r rheswm dros ei brosesu.
-
Cais i gludo eich gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau, mae'n bosib bod gennych yr hawl i ofyn i ni ddarparu copi electronig o'ch gwybodaeth bersonol i chi naill ai ar gyfer eich defnydd eich hun neu fel y gallwch ei rannu â sefydliad arall. Os yw'r hawl hwn yn berthnasol, gallwch ofyn i ni, lle mae'n ymarferol, drosglwyddo eich data personol yn uniongyrchol i'r parti arall.
-
Cwynion - os hoffech gwyno am y modd yr ydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni ar data@dobsonowen.com neu drwy ein gweithdrefn gwynion. Mae gennych hefyd yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef awdurdod goruchwyliol y DU ar gyfer materion diogelu data. Ewch i wefan ICO am fanylion pellach.
Oes angen i mi wneud unrhyw beth i helpu cadw fy ngwybodaeth bersonol yn ddiogel?
Bydd Dobson Owen yn cadw'ch data yn ddiogel fel y nodir yn y polisi hwn.
Nid yw danfon gwybodaeth ar-lein byth yn 100% ddiogel ac ni allwn warantu diogelwch data a anfonir atom fel hyn. Mae data a anfonir dros y rhyngrwyd ar eich risg eich hun.
Sut ydw i'n rheoli fy hoffterau marchnata?
Os ydych chi wedi cydsynio, byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i roi gwybodaeth farchnata uniongyrchol i chi am ein rhaglenni a'n gwasanaethau. Gall ein dulliau marchnata uniongyrchol fod ar ffurf e-bost, ffôn, post neu SMS neu unrhyw ddull (au) eraill a all fod yn berthnasol ac yr ydych wedi cydsynio iddynt.
Gallwch gofrestru i dderbyn diweddariad misol gan Dobson Owen trwy e-bost yn dweud wrthych am ein rhaglenni a'n gwasanaethau.
Byddwn yn sicrhau y bydd unrhyw farchnata uniongyrchol gennym ni a ddanfonir drwy ddulliau electronig yn cynnwys ffordd syml ichi atal cyfathrebu pellach, yn unol â'r gyfraith berthnasol. Er enghraifft, mewn negeseuon e-bost, efallai y byddwn yn rhoi cyswllt "dad-danysgrifio" i chi, neu gyfeiriad e-bost y gallwch chi anfon cais i eithrio.
Am ba hyd y bydd Dobson Owen yn cadw gwybodaeth amdanaf?
Fel arfer, bydd Dobson Owen ond yn cadw'ch data am y cyfnod sydd ei angen er mwyn inni fedru darparu i chi'r gwasanaethau rydych chi'n eu defnyddio. Bydd eich data wedyn yn cael ei ddileu yn ddiogel.
Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni gadw eich gwybodaeth bersonol am gyfnod hwy, os oes angen inni wneud hynny i gydymffurfio â'r gyfraith neu ofynion cadw cofnodion, gan gynnwys rheoli ein perthynas â chi, amddiffyn unrhyw hawliadau, neu at ddibenion treth.
Newidiadau i'r polisi hwn
Mae diogelwch data yn bwysig i ni a byddwn yn adolygu'r polisi hwn yn rheolaidd. Efallai y byddwn yn newid y polisi hwn o bryd i'w gilydd trwy ddiweddaru'r dudalen hon i adlewyrchu newidiadau yn y gyfraith a / neu ein harferion preifatrwydd.
Rydym yn eich annog i wirio'r polisi hwn ar gyfer newidiadau pan fyddwch yn edrych eto ar ein gwefan a chyn i chi roi gwybodaeth bersonol inni. Os nad ydych yn cytuno i unrhyw newidiadau a wnawn, peidiwch â pharhau i ddefnyddio ein gwasanaethau.
Cysylltwch â ni am breifatrwydd
Mae Dobson Owen gyda Swyddog Diogelu Data. Anfonwch yr holl sylwadau, ymholiadau neu geisiadau mewn perthynas â'r Polisi Preifatrwydd hwn a / neu'r ffordd rydym yn rheoli eich gwybodaeth bersonol i data@dobsonowen.com.
Fel arall, gallwch ddanfon llythyr at Swyddog Diogelu Data, Dobson Owen, 3 Thomas Buildings, Pwllheli. LL53 5HH.