1: Diffiniad
Proses o sgwrs a thrafodaeth gyda'r cleient i ddeall yr angen am y prosiect a'r hyn o ddisgwylir i ddeillio ohono. Hwn fydd sail y briff ar gyfer y gwaith.
​
2: Astudiaeth
Cyfnod o ymholi ac ymchwilio i hyfywedd, fforddadwyedd a chyfyngiadau technegol a all effeithio a llwyddiant y prosiect. Proses o ddatblygu, trafod ac adolygu cynlluniau egwyddorol.
​
3: Dyluniad
Cwblhau cynlluniau a chyflwyno ceisiadau ar gyfer caniatâd statudol. Adolygu a chyflwyno gwaith ymgynghorwyr eraill megis peirianwyr, maint fesurwyr a.y.
​
4: Gwybodaeth Adeiladu
Paratoi manylion i ddisgrifio pob agwedd o'r datblygiad ac i weithredu fel sail ar gyfer prisiau cystadleuol. Cydlynu a chydgordio datbligyadi y cynlluniau gyda gwaith ymgynghorwyr eraill.
​
5: Gweinyddiad Contract
Paratoi contracts, ymweld yn achlysurol a’r safle, trefnu a mynychu cyfarfodydd cofnodi newidiadau, a rhandaliadau paratoi a chyflwyno tystysgrifau perthnasol a chytuno cyfri terfynol ar ddiwedd y prosiect.