COVID-19​
​
Trefniadau gwaith yn ystod y cyfnod o ynysu cymdeithasol.
Mewn ymgais i leihau ymlediad COVID-19 fe benderfynwyd fore Llun 23ain o Fawrth 2020 i gau'r swyddfa. Yn sgil y newid yma mae pob aelod o staff y cwmni bellach yn gweithio o gartref er ceisio sicrhau fod prosiectau mewn llaw yn cael eu cwblhau mor fuan ag sydd bosibl.
Fe all y bu i chi brofi rhai anawsterau i gysylltu â ni dros y dyddiau diwethaf wrth i ni sefydlu sustemau a strwythurau newydd a fydd yn caniatáu i ni weithio fel cynt ond rydym yn obeithiol iawn fod hyn bellach mewn trefn gennym.
Bydd modd i chi gysylltu â ni fel arfer drwy e-bost a/neu ffôn ac fe fyddwn yn ymateb i bawb sydd yn cysylltu mor fuan â phosibl. Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu sylw ynglÅ·n â phrosiect unigol yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae ymlediad y firws yn bryder i nifer fawr o bobl ac yn creu heriau a rhwystrau nad ydym yn gyfarwydd â hwy. Fodd bynnag mae'r cyfnod yma hefyd yn creu cyfleoedd wrth i ni ymdopi a chreu strwythurau a sustemau newydd sydd ond yn bosibl oherwydd datblygiad diweddar dechnoleg gwybodaeth.
Gobeithio y bydd i chi gyd yn unigol ac fel teuluoedd allu osgoi'r afiechyd ac edrychwn ymlaen i'r cyfnod pan fydd modd i ni unwaith eto gyfarfod yn gymdeithasol.
Gyda chofion cynnes,
​
​
Penseiri Dobson Owen