top of page
Swyddfa_DO.png

AMCANION

I greu pensaernïaeth hyderus, effeithiol a chreadigol drwy ddilyn proses o ymchwil ac ymholiad gyda newydddeb, gwreiddioldeb, ac mewn perthynas addas a'r amgylchedd a'r gymuned.

​

AMCANION PELLACH
  • Gwella dealltwriaeth gyffredinol o egwyddorion pensaernïoli.

  • Ymchwilio i ffyrdd newydd o 'greu lle' gan ddefnyddio disgyblaeth bensaernïol i wella amgylchedd pobl sydd un ai yn defnyddio neu sydd yn cael eu dylanwadu ganddynt.

  • Cynorthwyo i gynnal a gwasanaethu'r gymuned leol a bod yn driw i'w hegwyddorion a'i harferion cynhenid.

​

GWERTHOEDD

Gwrando | Gwasanaeth | Gwreiddioldeb | Gweledigaeth | Gwybodaeth

 

Rydym yn ymrwymedig i wrando ar anghenion a dyheadau ein cwsmeriaid, gan ddarparu gwasanaeth o safon gyda gwreiddioldeb a gweledigaeth a chyda'r dyfnder gwybodaeth angenrheidiol o fewn y diwydiant adeiladu cyfoes.

bottom of page