top of page
Dobson Owen Logo

1: Diffiniad

Proses o sgwrs a thrafodaeth gyda'r cleient i ddeall yr angen am y prosiect a'r hyn o ddisgwylir i ddeillio ohono. Hwn fydd sail y briff ar gyfer y gwaith.

​

2: Astudiaeth

Cyfnod o ymholi ac ymchwilio i hyfywedd, fforddadwyedd a chyfyngiadau technegol a all effeithio a llwyddiant y prosiect. Proses o ddatblygu, trafod ac adolygu cynlluniau egwyddorol.

​

3: Dyluniad

Cwblhau cynlluniau a chyflwyno ceisiadau ar gyfer caniatâd statudol. Adolygu a chyflwyno gwaith ymgynghorwyr eraill megis peirianwyr, maint fesurwyr a.y.

​

4: Gwybodaeth Adeiladu

Paratoi manylion i ddisgrifio pob agwedd o'r datblygiad ac i weithredu fel sail ar gyfer prisiau cystadleuol. Cydlynu a chydgordio datbligyadi y cynlluniau gyda gwaith  ymgynghorwyr eraill.

​

5: Gweinyddiad Contract

Paratoi contracts, ymweld yn achlysurol a’r safle, trefnu a mynychu cyfarfodydd cofnodi newidiadau, a rhandaliadau paratoi a chyflwyno tystysgrifau perthnasol a chytuno cyfri terfynol ar ddiwedd y prosiect.

bottom of page