top of page

Siop Stiniog

Siop a chanolfan wybodaeth Antur Stiniog Cyf wedi agor ar ddydd Gŵyl Ddewi! Gweledigaeth gan Antur Stiniog i drawsnewid 2 o'r unedau crefft yma yng nghanol Blaenau Ffestiniog i fod yn ganolfan drawsnewidiol i'r dref gan ddarparu gwybodaeth, siop a swyddfa i'r Antur ei hun a chan weithredu fel rhan arall o'r jigso wrth i'r Antur gyda'i partneriaid geisio hyrwyddo adferiad y dref.

 

Mae'r gwaith o greu'r newid wedi ei drosglwyddo i gwmni Henry Jones a fydd yn cydweithio a chwmni Dobson:Owen ar y prosiect.

bottom of page