top of page

Canolfan Y Fron

Gyda chyfuniad o grantiau gan y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae cyn ysgol gynradd pentref Y Fron wedi cael ei drawsnewid i fod yn ganolfan gymuned newydd fywiog, gyda chaffi a siop bentref, stafelloedd newid a llety 16-gwely. 

​

Yr her i Dobson:Owen a’r cleient oedd sut i adfer ac ymestyn yr hên adeilad ysgol Fictoraidd hwn i greu cyfleuster modern aml-ddefnydd i’r gymuned, yn gweithio gyda chyllid cyfyngiedig a rhaglen dynn. Fel rhan o’i drawsnewid i adeilad mwy deniadol, unedig ac ynni-effeithiol, fe ynyswyd y waliau allanol, gosodwyd ffenestri newydd ac ail-doi yn llwyr. Mae egni’r Ganolfan i gyd nawr yn adnewyddadwy ac yn dod o bympiau gwres aer, yn ogystal â llu baneli solar 8kW. 
 
CLIENT: Canolfan Y Fron | GWERTH: £800K | CWBLHAD: Awst 2018 | YMGYNGHORWYR: Datrys, Carpenter Davies, Adeiladol Cyf. | ADEILADWYR: Gareth Morris Construction

bottom of page